Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg.

Cyhoeddir Gwerddon ar y we o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg.

Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF) 2014 ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf.

Golygydd Gwerddon yw Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth. Fe’i cynorthwyir gan yr is-olygydd, Dr Hywel Griffiths, a chan Fwrdd Golygyddol sy'n cynnwys 16 ysgolhaig o amryw ddisgyblaethau a Sefydliadau Addysg Uwch Cymru. Mari Fflur a Dr Angharad Watkins yw’r Cynorthwywyr Golygyddol.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007. Cyllidir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.