Cyfranwyr

A oes gennych ddiddordeb cyfrannu erthygl i Gwerddon? Cyhoeddir Gwerddon o leiaf ddwywaith y flwyddyn a chroesewir erthyglau gan unrhyw ymchwilydd sy’n creu gwaith o safon ryngwladol.

Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau ac yn defnyddio cyfundrefn arfarnu anhysbys.

Dylid dilyn canllawiau golygyddol Gwerddon (gweler isod) a gwneir penderfyniad golygyddol p’un ai derbynnir erthygl i'w chyhoeddi ai peidio yn dilyn proses arfarnu annibynnol.

Derbynnir erthyglau ar sail dealltwriaeth nad ydynt wedi eu cyhoeddi eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr awdur sydd yn gyfrifol am sicrhau caniatâd i atgynhyrchu deunydd sydd o dan hawlfraint.

Dylid anfon erthyglau at gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Arfarnwyr  

A oes gennych ddiddordeb mewn darllen ac arfarnu erthyglau Gwerddon? Cyn y cyhoeddir unrhyw erthygl yn Gwerddon, caiff ei darllen a'i harfarnu gan ddau academydd neu ymarferwr/wraig sy'n arbenigwyr yn y maes er mwyn sicrhau bod Gwerddon yn cynnal y safonau ymchwil uchaf ac yn cydymffurfio ag anghenion Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.

Rydym yn defnyddio dull arfarnu anhysbys fel nad yw'r sawl sydd wedi ysgrifennu'r erthygl yn gwybod pwy yw'r arfarnwyr a vice versa.

Gofynnir i arfarnwyr lenwi Ffurflen Arfarnu Gwerddon a'i dychwelyd at y Cynorthwyydd Golygyddol o fewn mis i dderbyn yr erthygl.

Os hoffech chi gael eich hystyried fel arfarnwr ar gyfer erthyglau Gwerddon, anfonwch grynodeb o’ch cefndir academaidd neu broffesiynol ynghyd â rhestr fer o'ch arbenigeddau at gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Canllawiau Golygyddol

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau ar sut i baratoi erthygl i'w chyhoeddi yn Gwerddon.

Gofynnir i gyfranwyr sicrhau bod eu herthygl yn cydymffurfio â'r canllawiau cyn ei chyflwyno. Dylid rhoi sylw hefyd i'r Canllaw Iaith.

Canllawiau Golygyddol

Trwydded i Gyhoeddi  

Cyn gallu cyhoeddi unrhyw erthygl yn Gwerddon, rhaid cael caniatâd ysgrifenedig awdur/awduron yr erthygl.

Gofynnir i bob cyfrannwr ddarllen telerau'r Drwydded i Gyhoeddi yn ofalus cyn ei llofnodi a'i dychwelyd atom drwy'r post.

Trwydded i Gyhoeddi

Canllaw Iaith

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyngor ar sut i ysgrifennu ar gyfer Gwerddon. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chymorth i wirio a gloywi iaith. 

Gall deiliaid Cynllun Staffio Academaidd neu Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dderbyn cefnogaeth iaith gan diwtoriaid iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Canllaw Iaith

LaTeX  

Mae Gwerddon yn derbyn erthyglau ar ffurf Word neu LaTeX.

Gwahoddir awduron sy'n dymuno cyflwyno ar ffurf LaTeX i lawrlwytho a defnyddio'r templed isod. Dylid cyflwyno'r erthygl ar ffurf PDF a chynnwys y ffeil .tex berthnasol hefyd. Dylid dilyn Canllawiau Golygyddol a Chanllaw Iaith Gwerddon wrth baratoi’r erthygl.

Templed LaTeX

Canllawiau Gwerddon Fach

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyngor ar sut i ysgrifennu ar gyfer Gwerddon Fach. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chymorth i wirio a gloywi iaith. 

Manylion Llawn

Ymarfer fel Ymchwil

Mae Gwerddon yn croesawu allbynnau sydd ar ffurf ymarfer fel ymchwil.

Gwahoddir awduron i gyflwyno’r allbwn ar ffurf ffeil gyfrifiadurol gyda dogfen ysgrifenedig atodol o hyd at 4,000 o eiriau yn rhoi sylw i’r elfennau canlynol: cyd-destun, cwestiynau ymchwil a methodoleg. Gellir cyflwyno llyfryddiaeth ddethol os yn berthnasol.

Dylid dilyn Canllawiau Golygyddol a Chanllaw Iaith Gwerddon wrth baratoi’r ddogfen.

Rhifynnau Arbennig  

Yn achlysurol cyhoeddir rhifyn arbennig sydd yn canolbwyntio ar bwnc neu thema arbennig. Gwahoddir ceisiadau i gydlynu rhifyn arbennig. Dylid anfon esboniad byr o'r rhesymeg dros wneud cais ynghyd â rhestr o'r erthyglau tebygol at y Cynorthwyydd Golygyddol.

Yn yr un modd, yn achlysurol cyhoeddir rhifynnau arbennig rhithiol, sef casgliad o erthyglau a gyhoeddwyd eisoes mewn maes penodol. I wneud cais am rifyn arbennig rhithiol, dylid cysylltu â'r Cynorthwyydd Golygyddol.

********change link to rhifynnau arbennig rhithiol?**********